Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Trwy e-bost
Dydd Iau 01 Chwefror 2024
Annwyl Weinidog,
Hoffem ddiolch ichi am ddyfynnu’r Comisiwn yn ystod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 24 Ionawr, yn ystod sesiwn dystiolaeth 8 Bil Addysg Breswyl yn yr Awyr Agored (Cymru).
Soniasoch ein bod yn datblygu dysgu ar-lein ar gyfer ymarferwyr a sut y gallant gyflawni’r dyletswyddau statudol sydd arnynt. Roeddem am egluro nad ydym yn cynhyrchu dysgu ar-lein ac efallai y bu rhywfaint o ddryswch gydag adnoddau eraill yr ydym wedi’u cyhoeddi, er enghraifft Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Canllawiau i ysgolion yng Nghymru.
Os hoffech unrhyw wybodaeth neu esboniad pellach, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.
Mae copi o'r eglurhad hwn wedi'i anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn iddo fod yn gyflawn.
Yr eiddoch yn gywir,
Ruth
Coombs
Pennaeth Cymru
Ffôn uniongyrchol: 029 2044 7700